Y Cyfarfod Llawn |
Dyddiad y
cyfarfod: |
|
|
Amser y
cyfarfod: |
||
|
||
|
||
|
Agenda (95)v2 |
1. Cwestiynau i’r Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (45 munud)
|
2. Cwestiynau i’r Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth (45 munud)
|
3. Cynnig i gymeradwyo Cyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14 (30 munud)
NDM5090 Angela Burns (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 20.16:
Yn cytuno ar gyllideb Comisiwn y Cynulliad ar gyfer 2013-14, fel y’i pennir yn Nhabl 1 “Cynulliad Cenedlaethol Cymru: Cyllideb Comisiwn y Cynulliad 2013-14”, a osodwyd gerbron y Cynulliad ar 7 Tachwedd 2012 a’i bod yn cael ei hymgorffori yn y Cynnig Cyllidebol Blynyddol o dan Reol Sefydlog 20.26 (ii).
Dogfennau ategol: |
4. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, ‘Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru’ (60 munud)
NDM5089 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y Cynnydd o ran cyrraedd Safon Ansawdd Tai Cymru a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Medi 2012.
Nodyn: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Tachwedd 2012.
Dogfennau ategol: |
5. Dadl Ceidwadwyr Cymreig (60 munud)
NDM5092 William Graham (Dwyrain De Cymru)
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi swyddogaeth bwysig y stryd fawr yng Nghymru fel canolfan ar gyfer ymgysylltu cymunedol, rhoi hwb i economïau lleol a gwella balchder bro;
2. Yn nodi’r sialensiau sy’n wynebu’r stryd fawr yng Nghymru, gan gynnwys cyfraddau uchel o unedau gwag, y cynnydd mewn siopa ar y rhyngrwyd a datblygu canolfannau manwerthu ar gyrion trefi.
3. Yn nodi’r cynigion a amlinellir yn y papur polisi ‘A Vision for the Welsh High Street’; a
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio’r cynigion a amlinellir yn ‘A Vision for the Welsh High Street’ a chyhoeddi ymateb yn rhoi manylion ynghylch sut y bydd yn ymgorffori’r cynigion hyn yn ei hadolygiad adfywio parhaus.
Mae linc i ‘A Vision for the Welsh High
Street’ ar gael yma (Saesneg yn unig):
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt 2 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy’n dilyn:
Yn gresynu nad yw TAN 4: Manwerthu a Chanol Trefi wedi’i ddiweddaru ers datganoli.
Gellir gweld TAN 4 drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/topics/planning/policy/tans/tan4/?skip=1&lang=cy
[Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 2 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Dileu pwynt 4, a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod dogfen ymgynghori Llywodraeth Cymru, ‘‘Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid’’, yn rhoi pwyslais cryf ar adfywio canol trefi; ac yn nodi ymhellach ymrwymiad Llywodraeth Cymru i archwilio holl opsiynau adfywio canol trefi gyda golwg ar gyhoeddi ei chynigion i gefnogi canol trefi yn dilyn yr ymgynghoriad hwnnw.’
Gallwch weld yr ymgynghoriad drwy fynd i:
http://wales.gov.uk/consultations/businessandeconomy/vvp/?skip=1&lang=cy
Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ym mhwynt 4, dileu 'A Vision for the Welsh High Street’ a rhoi yn ei le ‘adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Adfywio canol trefi dyddiedig Ionawr 2012’
Gellir gweld adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes: Adfywio canol trefi drwy fynd i:
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am ragor o bwerau i gymunedau liniaru ar effaith canolfannau siopa ar gyrion trefi ar siopau lleol, adfywio canol trefi lleol, a gostwng ardrethi busnes ar gyfer cyfleusterau cymunedol mewn canol trefi er mwyn annog ail-leoli.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddatblygu rhaglen i ledaenu arfer gorau ym maes adfywio canol trefi ledled Cymru.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag awdurdodau lleol i gynnig gostyngiadau mewn ardrethi busnes i denantiaid sydd naill ai’n newydd i’r ardal neu sy’n ehangu busnes presennol, ac sy’n cymryd les eiddo sydd wedi bod yn wag am o leiaf 12 mis, fel ffordd o ddenu busnesau newydd a busnesau sy’n ehangu i'r Stryd Fawr yng Nghymru er mwyn annog adfywio. |
6. Dadl Plaid Cymru (60 munud)
NDM5091 Jocelyn Davies (Dwyrain De Cymru)
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi’r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu wrth yr effaith a gaiff hyn ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rheini sy’n dlawd o ran tanwydd;
2. Yn gresynu bod Llywodraeth y DU wedi methu â rheoleiddio’r farchnad ynni i ddiogelu’r rheini sy’n byw mewn tlodi tanwydd; a
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl stoc tai Cymru, gan flaenoriaethu’r rheini sy’n dlawd o ran tanwydd.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
[Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol]
Gwelliant 1 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi Bargen Werdd Llywodraeth y DU a fydd:
a) yn sicrhau, o dan y Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni newydd, ei bod yn ofynnol i gwmnïau ynni ganolbwyntio eu cymorth ar y cartrefi tlotaf a mwyaf agored i niwed, yn ogystal â’r rheini mewn eiddo sy’n anodd eu trin sy’n methu â gwneud arbedion ariannol heb rywfaint o gymorth;
b) yn sicrhau y bydd llawer o bobl yn gallu ad-dalu costau cychwynnol gwaith inswleiddio eu cartrefi drwy gyfrwng biliau is o ganlyniad i welliannau i’w cartrefi; ac
c) yn sicrhau bod cwmnïau ynni’n cyfathrebu â’u cwsmeriaid i wneud yn siwr eu bod ar y tariff mwyaf addas yn unol â’u hanghenion;
Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn croesawu cynlluniau Llywodraeth y DU i ddefnyddio’r Bil Ynni sydd yn yr arfaeth i ddeddfu ar dariffau isel ar gyfer pob cwsmer.
Gwelliant 3 - Jane Hutt (Bro Morgannwg)
Ym mhwynt 3, dileu ‘lunio cynllun i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni holl’ a rhoi yn ei le ‘adeiladu ar y gwaith y mae’n ei wneud eisoes i uwchraddio sgoriau effeithlonrwydd ynni’
Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Cynnwys fel pwynt 3 newydd ac ailrifo’r pwyntiau sy'n dilyn:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio ar y cyd â Bargen Werdd Llywodraeth y DU i wella effeithlonrwydd ynni cartrefi yng Nghymru.
Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn nodi mai’r cynnydd sylweddol ym mhris cyfanwerthu nwy sy’n bennaf cyfrifol am y codiadau diweddar mewn prisiau ynni, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i fynd ar drywydd dulliau amgen o gynhyrchu ynni adnewyddadwy er budd y cyhoedd yng Nghymru ac i ddiogelu ffynonellau ynni’r wlad.
Gwelliant 6 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn gresynu’n arw fod nifer y cartrefi mewn tlodi tanwydd yng Nghymru wedi codi o 28% i 33.5% rhwng 2008 a 2011.
Gwelliant 7 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu’r ffaith bod Llywodraeth y DU yn cyflwyno’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni i helpu’r rheini sydd fwyaf mewn angen ac ar gyfer eiddo sy’n anos eu trin, ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ei chynlluniau effeithlonrwydd ynni ei hun yn cyd-fynd â’r Rhwymedigaeth Cwmnïau Ynni yn hytrach na’i dyblygu’n ddiangen.
Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn annog Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar bolisi Bargen Werdd Llywodraeth y DU. |
Cyfnod Pleidleisio |
7. Dadl Fer (30 munud)
NDM5093 Mark Drakeford (Gorllewin Caerdydd):
Bondiau Effaith Gymdeithasol a Phlant sy’n Derbyn Gofal yng Nghymru
Archwilio ffordd newydd o ddarparu gwasanaethau sy’n gallu lleihau nifer y plant a dderbynnir i ofal awdurdodau lleol yng Nghymru. |
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 20 Tachwedd 2012